MAE ysgol yn Aberystwyth wedi ffurfio cwmni i hybu sgiliau busnes a mentergarwch.

Mae disgyblion blwyddyn 10 a 12 Ysgol Penweddig yn cystadlu yng nghystadleuaeth Menter yr Ifanc ar ôl cynhyrchu llyfr coginio o’r enw Sbarion fel eu prif gynnyrch.

Mae’r llyfr ryseitiau yn canolbwyntio ar wastraff bwyd, gan ddefnyddio bwydydd mae’n debygol iawn fydd gan pawb yn y tŷ. Enw’n cwmni ydi Llanw.

Meddai’r disgyblion: “Hyd yn hyn, rydym wedi ennill y rownd gyntaf yn y gystadleuaeth.

“Byddwn yn mynd ymlaen i gystadlu yn ffeinal Cymru mis nesaf.

“I ddechrau, roedd yn rhaid i ni godi arian. O ganlyniad, penderfynnon gynhyrchu nwyddau Nadoligaidd gan gynnwys canhwyllau, addurniadau a chardiau.

“O ganlyniad, cawsom gyfle i werthu yng Nghaerdydd a mewn ffeiriau ysgolion lleol.

“Erbyn hyn, mae ein llyfr ryseitiau ar werth yn siop Inc, ac drwy Instagram. Rydym yn mynychu marchnad y ffermwyr yn fuan iawn hefyd.

“Rydym yn gobeithio ehangu ar y gwerthu yn fuan iawn.

“O fewn y llyfr, mae gennym blog sydd yn cynnwys fideos i ddilyn tra'n cogionio hefyd.”