MAE S4C wedi cyhoeddi comisiwn am gyfres newydd, Ar y Ffin.

Mae’r gyfres chwe’ phennod awr o hyd yn gyd-gomisiwn gydag UKTV sydd yn cael ei chynhyrchu gan Severn Screen ac fydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar sianel drosedd UKTV, Alibi. Bydd y gyfres yn cael ei saethu gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Ar y Ffin / Mudtown wedi’i gosod yn bennaf o fewn Llys yr Ynadon, Casnewydd. Mae’r ddrama wedi’i hysgrifennu gan Hannah Daniel (Un Bore Mercher, Creisis) a Georgia Lee, sydd hefyd yn gweithio fel ynad rhan amser.

Erin Richards (Gotham, The Crown) fydd yn chwarae’r brif rhan fel Claire Lewis Jones, wrth ochr i Tom Cullen (The Gold, Becoming Elizabeth) fel Saint Pete, Matthew Gravelle (Broadchurch, Steeltown Murders) fel Alun Lewis Jones, Lauren Morais (The Red King) fel Beca Lewis Jones, Lloyd Meredith (The Red King, Gran Turismo) fel Sonny Higgins, Kimberly Nixon (The Salisbury Poisonings, Life and Death in the Warehouse) fel Sara Humphries, Sion Pritchard (Pila Pala, The Indian Doctor) fel Davey Johns ac Ifan Huw Dafydd (Y Golau, Mr Bates vs The Post Office) fel Owen Williams. 

Dywedodd Georgia Lee a Hannah Daniel: "Rydym wrth ein bodd cael y cyfle i gynrychioli byd llys yr ynadon nad sydd i’w gweld yn aml ar y sgrîn. Mae’r gyfres wedi'i saethu mewn modd sydd yn cynrychioli ysbryd a chymeriad De Cymru. Rydym wedi ein cyffroi i allu dod â'r cymeriadau a'r stori gyffrous hon i'r sgrîn wrth gyd-weithio gyda phartneriaid mor dalentog."

Mae’r gyfres yn dilyn ynad profiadol Claire Lewis Jones wrth iddi wynebu helbulon personol tra’n goruchwylio achosion yn Llys yr Ynadon yng Nghasnewydd.

Mae Ned Humphries, ffrind personol Beca, merch Claire, yn wynebu cyhuddiad o losgi bwriadol, ac felly mae teyrngarwch Claire i’w chymuned yn cael ei brofi. Mae’r sefyllfa yn gwaethygu pan mae’n dod i’r amlwg fod y troseddwr nodedig Saint Pete hefyd yn rhan o’r stori.

Mae perthynas Claire a Saint Pete yn mynd nôl beth amser – a fydd ei gorffennol yn bygwth ei phresennol? Wrth iddi ymhél yn ddyfnach i fewn i’r achos, ac wrth i amheuon dyfu o gwmpas cariad newydd ei merch, Sonny Higgins, mae Claire yn darganfod gwead o weithgareddau troseddol all ei rhoi hi a’i theulu mewn peryg.

Bydd y ddrama yn cael ei darlledu yn Gymraeg yn gyntaf ddiwedd 2024 ar S4C. Ar y Ffin yw enw’r ddrama Gymraeg ac yna bydd i’w gweld yn Saesneg fel Mudtown ar sianel Alibi.